agw. Genesis 3:1-5,13
bgw. Philipiaid 4:15-18
cgw. Actau 16:23-24
dgw. Deuteronomium 25:3
egw. Actau 16:22; gw. Actau 14:19
fgw. Actau 9:23; 14:5
ggw. Actau 9:23-25

2 Corinthians 11

Paul a'r ffug-apostolion

1Wnewch chi oddef i mi siarad yn ffôl? – maddeuwch i mi am hyn. 2Os dw i'n genfigennus, Duw sy'n gwneud i mi deimlo felly. Dw i wedi'ch addo chi yn briod i un dyn – ie, dim ond un! Dw i am eich cyflwyno chi'n wyryf bur i'r Meseia. 3Ond dw i ofn i chi gael eich llygru a'ch denu i ffwrdd o'ch ymroddiad llwyr iddo, yn union fel y cafodd Efa ei thwyllo gan yr hen sarff gyfrwys. a 4Mae rhywun yn dod atoch chi ac yn pregethu am Iesu gwahanol i'r un roedden ni'n ei bregethu. Dych chi'n derbyn ysbryd sy'n wahanol, neu ‛newyddion da‛ gwahanol, a dych chi'n goddef y cwbl yn ddigon hapus! 5Ond dw i ddim yn meddwl mod i'n israddol o gwbl i'r ‛ffansi-apostolion‛ yna. 6Falle nad ydw i'n siaradwr cyhoeddus mawr, ond dw i'n gwybod beth ydy'r gwir. Mae'r gwir wedi cael ei wneud yn ddigon clir i chi bob amser.

7Roeddwn i wedi cyhoeddi newyddion da Duw i chi yn rhad ac am ddim. Tybed wnes i'r peth anghywir? Diraddio fy hun er mwyn eich anrhydeddu chi. 8Roeddwn i'n derbyn tâl gan eglwysi eraill er mwyn i mi allu gweithio i chi! 9Hyd yn oed pan roeddwn i'n brin, fues i ddim yn faich ar neb ohonoch chi. Y ffrindiau ddaeth o dalaith Macedonia roddodd i mi bopeth oedd arna i ei angen. b Dw i wedi osgoi bod yn faich arnoch chi o gwbl, a dw i'n mynd i ddal i wneud hynny. 10Heb unrhyw amheuaeth does neb yn Achaia gyfan yn gallu gwadu hynny. 11Ond pam dw i'n gwneud hyn? Am fy mod i ddim yn eich caru chi? Duw a ŵyr cymaint dw i'n eich caru chi!

12Dw i'n mynd i ddal ati i wneud yr un fath â dw i wedi gwneud bob amser. Bydd hynny'n tynnu'r carped o dan draed y rhai sy'n brolio ac yn ceisio rhoi'r argraff eu bod nhw'n gwneud yr un gwaith â ni! 13Na, ffug-apostolion ydyn nhw! Twyllwyr yn cymryd arnyn nhw eu bod nhw'n cynrychioli y Meseia! 14A dim syndod, achos mae Satan ei hun yn cymryd arno ei fod yn angel y goleuni! 15Felly pam ddylen ni ryfeddu os ydy ei weision e'n cymryd arnyn nhw eu bod nhw'n gweithio dros beth sy'n iawn. Byddan nhw'n cael beth maen nhw'n ei haeddu yn y diwedd!

Paul yn sôn am beth roedd wedi ei ddioddef

16Dw i'n dweud eto: peidiwch meddwl fy mod i'n ffŵl. Ond hyd yn oed os dych chi'n meddwl hynny, wnewch chi oddef i mi actio'r ffŵl trwy frolio tipyn bach? 17Wrth frolio fel yma dw i ddim yn siarad fel y byddai'r Arglwydd am i mi siarad – actio'r ffŵl ydw i. 18Ond am fod cymaint yn brolio fel mae'r byd yn gwneud, dw i'n mynd i wneud yr un peth. 19Wedi'r cwbl, er eich bod chi mor ddoeth, dych chi'n barod iawn i oddef ffyliaid! 20Yn wir, dych chi'n fodlon hyd yn oed os ydyn nhw'n eich caethiwo chi. Dych chi'n gadael iddyn nhw gymryd eich arian chi a manteisio arnoch chi. Dych chi'n gadael iddyn nhw gymryd drosodd a chodi cywilydd arnoch chi yn y ffordd maen nhw'n eich trin chi! 21Mae gen i gywilydd ohono i'n hun, fy mod i'n rhy wan i'ch trin chi felly!

Ond os ydyn nhw am frolio, gadewch i mi fentro gwneud yr un peth. (Cofiwch mai actio'r ffŵl ydw i!) 22Maen nhw'n Iddewon sy'n siarad Hebraeg ydyn nhw? A fi! Israeliaid crefyddol, ie? A fi! Disgynyddion Abraham? A fi! 23Gweision i'r Meseia? Dw i'n was gwell! (Dw i wir ddim yn gall yn siarad fel hyn!) Dw i wedi gweithio'n galetach na nhw, wedi bod yn y carchar yn amlach, wedi cael fy nghuro dro ar ôl tro, nes mod i bron marw'n aml. c 24Dw i wedi cael fy chwipio bum gwaith gan yr Iddewon (y tri deg naw chwip). d 25Dw i wedi cael fy nghuro â ffyn dair gwaith gan y Rhufeiniaid. Un tro cafodd cerrig eu taflu ata i er mwyn fy lladd i. Dw i wedi bod mewn llongddrylliad dair gwaith. e Un o'r troeon hynny roeddwn i yn y môr am dros bedair awr ar hugain. 26Yn ystod yr holl deithio di-baid dw i wedi bod mewn peryg gan afonydd, gan ladron, gan fy mhobl fy hun a phobl o genhedloedd eraill; f dw i wedi bod mewn peryg mewn dinasoedd, wrth deithio drwy dir anial ac ar y môr; a hefyd gan y dynion sy'n cymryd arnyn eu bod nhw'n Gristnogion. 27Dw i wedi gweithio'n wirioneddol galed ac wedi colli cwsg yn aml; wedi profi newyn a syched a mynd heb fwyd yn aml; dw i wedi dioddef o oerfel ac wedi bod heb ddigon o ddillad i gadw'n gynnes. 28A heb sôn am ddim arall, dw i dan bwysau bob dydd o achos y consýrn sydd gen i am yr eglwysi i gyd. 29Os ydy rhywun yn teimlo'n wan, dw i yno gydag e. Os ydy rhywun yn cael ei arwain i bechu, dw i'n berwi y tu mewn!

30Os oes rhaid i mi frolio, mae'n well gen i frolio am y pethau hynny sy'n dangos mor wan ydw i. 31Mae Duw a Thad yr Arglwydd Iesu – yr un sydd i'w foli am byth – yn gwybod fy mod i'n dweud y gwir. 32Yn Damascus roedd y llywodraethwr dan y Brenin Aretas wedi gorchymyn i'r ddinas gael ei gwarchod er mwyn fy arestio i. 33Ond ces fy ngollwng i lawr o ffenest yn wal y ddinas, mewn basged! Dyna sut llwyddais i ddianc o'i afael! g

Copyright information for CYM